O’r Mynydd i’r Môr / Summit to Sea

Natur a phobl yn dal ati’n dawel

Hannah Scrase yn sôn am yr enghreifftiau hardd ac annisgwyl o adfywiad ac adferiad a welodd wrth ymweld â phobl a llefydd o fewn ardal O’r Mynydd i’r Môr.

Fel rhywogaeth, rydyn ni fodau dynol yn tueddu i feddwl ein bod yn gwybod sut mae’r byd yn gweithio. Mae tuedd inni feddwl mai ni ŵyr orau, ond eto rydym yn anghytuno â’n gilydd ynghylch sut i reoli’r tir, yr afonydd a’r môr (heb sôn am Brexit). Mae’r dystiolaeth o’n doethineb cyffredinol yn hyn o beth yn hynod o brin. Rydym wedi colli cymaint o rywogaethau cyfan, poblogaethau lleol a chynefinoedd fel y byddem yn siŵr o gael E – os nad F am stiwardio’r blaned petai’n brawf.

Ond, rwy’n cael fy synnu a’m hysbrydoli’n aml gan y ffordd y mae natur yn adfer ei hun, os allwn ni atal ein hunain rhag ceisio rheoli popeth.

Y peth gorau am fy wythnos waith yw pan fyddaf yn ymweld â phobl sy’n fy nhywys o amgylch eu tir ac yn sôn am y bywyd gwyllt maen nhw’n ei weld ac yn gobeithio’i weld yn y dyfodol. Pobl sydd wedi cysylltu â thîm y prosiect yw’r rhain, fel arfer drwy gwybodaeth@ormynyddirmor.cymru neu rai rydym yn eu hadnabod eisoes, neu sydd wedi’u cyflwyno inni gan bobl eraill. Mae pob un yn wahanol, ond ar y cyfan maent wedi byw yn yr un man am nifer o flynyddoedd, mae eu tir yn bennaf dan ddefnydd cymysg, gan gynnwys porfa, gwair neu silwair, coetir, coed pori ac ardaloedd sydd heb eu cyffwrdd. Mae ganddynt gariad a chonsyrn dros fywyd gwyllt ac maent am wneud beth allan’ nhw i’w adfer.

Nid pobl benboeth sy’n dweud wrth bobl eraill beth i’w wneud yw’r rhain. Maent wrthi’n dawel yn creu lle ar gyfer natur ac mae natur yn symud yn dawel i’r lle hwnnw ble bynnag y gall, a ble bynnag yr ydym ni’n caniatáu hynny. Yn aml, nid yw hynny’n digwydd ble rydym wedi bwriadu neu wedi disgwyl iddo ddigwydd. 

Gwreiddiau cerdinen tu mewn i risgl coeden farw (ceirios neu fedwen?) tu mewn i dderwen hynafol

[Gwreiddiau cerdinen tu mewn i risgl coeden farw (ceirios neu fedwen?) tu mewn i dderwen hynafol]

Weithiau gall  yr oportiwnwyr hynod annisgwyl hyn ym myd natur fod yn well am gael pobl i ymgysylltu ym mywyd gwyllt na phan fydd natur yn dilyn y rheolau cymhleth sy’n berthnasol yn ein barn ni.

… Yr eginblanhigion coed sy’n gwneud eu ffordd yn dawel drwy’r rhedyn ar dir comin ger Llanidloes, ar ôl canfod llain o ddaear galed ar lwybr moch daear … yna’r rhedyn, a fu’n atal planhigion eraill rhag tyfu yn ei gysgod am flynyddoedd yn troi’n blanhigfa, gan guddio’r coed ifanc rhag yr anifeiliaid sy’n pori yno.

… Fy nghipolwg cyntaf ar garw yn lleol, bwch y danas balch ar fin troedio’r llethr moel olaf ar y ffordd fynyddig i Fachynlleth uwchben Dylife.  Pur anaml y gwelir ceirw o hyd yng Nghanolbarth Cymru, dyma’r tro cyntaf imi weld un dros bedwar degawd o chwilio, ac roedd yn y lle olaf y byddwn wedi disgwyl ei weld.

… Y pathew oedd yn gaeafgysgu mewn blwch nythod a osodwyd ar gyfer y gwybedog brith uwchlaw Talybont … y pathew a ganfuwyd yn nythu ar y llain ganol ar ffordd ddeuol (ddim yn lleol fel y bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd â’n ffyrdd ni’n barod iawn i’w nodi!)

… Y dderwen a gafodd ei chwythu lawr, ond pan sylweddolodd nad oedd neb wedi’i llifio hi’n ddarnau pan oedd hi lawr, yn penderfynu rhoi cynnig arall arni, ac erbyn hyn mae’n tyfu wyneb i waered.

… Y gwybedog smotiog yn magu nythaid o rai bach ar hen gribin/rhaca sy’n pwyso yn erbyn wal ein sied.

… Y gerdinen a wreiddiodd uwchlaw’r ddaear y tu mewn i risgl gwag coeden arall, a oedd ei hunan wedi tyfu a marw o fewn hollt derwen pum can mlwydd oed yng Nghwm Elan.

Creu coetir – heb diwbiau plastig, chwynladdwyr nag asesiadau risg

[Creu coetir – heb diwbiau plastig, chwynladdwyr nag asesiadau risg]

Nid pobl wnaeth i’r pethau hyn ddigwydd, ond mi ddigwyddon nhw am fod neb yn eu hatal.

Mae gweld yr enghreifftiau hyn o natur yn dal ei gafael neu’n dychwelyd mewn mannau annisgwyl – a’r bobl sy’n caniatáu iddo ddigwydd neu’n rhoi help llaw tawel – yn gwneud iawn am yr holl amser a dreulir ar daenlenni (sydd fel petaent â’u meddyliau eu hunain y dyddiau hyn), galwadau cynadledda ac e-byst.

Mae’r bobl dwi’n cyfeirio atynt uchod yn gwybod pwy ydyn nhw a dwi’n codi fy het iddyn nhw. Diolch yn fawr – am wneud lle i natur – ac am rannu’r canlyniadau.

Hannah Scrase yw cydlynydd y prosiect.

Postiadau blog diweddar

Bywyd fel intern

Ben Porter yn sôn am rai o’i brofiadau ar ddechrau bywyd fel intern gydag O’r Mynydd i’r Môr