O’r Mynydd i’r Môr / Summit to Sea

Bywyd fel intern

Ben Porter yn sôn am rai o’i brofiadau ar ddechrau bywyd fel intern gydag O’r Mynydd i’r Môr

Dw i bellach yn gweithio fel intern gyda’r prosiect O’r Mynydd i’r Môr ers mis Hydref, gan oroesi hirlwm y gaeaf ym Machynlleth lle dw i wedi fy lleoli yng Nghanolfan Goedwigaeth Eco-parc Dyfi – swyddfa sy’n fwrlwm o sefydliadau coetir a chymunedol lu sy’n gwneud gwaith rhyfeddol yn yr ardal leol ac ar draws Cymru gyfan. Mae wedi bod yn lle gwych i gael fy nhraed danaf mewn maes cymharol newydd a finnau yn Falmouth dros y tair blynedd diwethaf yn astudio Bioleg Cadwraeth ac yn byw ar Ynys Enlli cyn hynny.

 

Beth mae intern yn ei wneud?

Fel intern, mae amrywiaeth o dasgau’n cael eu dirprwyo i mi i helpu’r tîm i ffurfio’r prosiect cyffrous yma yng nghyfnod cynnar ei ddatblygiad. I mi, mae rhan gyntaf y flwyddyn hon wedi’i chanolbwyntio’n bennaf ar sefydlu cynllun monitro ecolegol y prosiect gyda Mick Green, ecolegydd lleol profiadol a fu ynghlwm wrth sefydlu O’r Mynydd i’r Môr. Rhan hollbwysig o’r prosiect yw monitro sy’n ein gadael i gofnodi effaith gwaith adferol ar y dirwedd: sut mae’r bywyd gwyllt yn ymateb, pa rywogaethau sy’n ffynnu, pa rai sydd ddim yn gwneud cystal a hyd yn oed sut mae hyn oll yn gysylltiedig â buddion ‘gwasanaeth’ yr ecosystem ehangach fel dal carbon, cadw dŵr a sefydlogi’r pridd.

Ecolegydd maes ydw i wrth fy ngalwedigaeth, ymhlith pethau eraill, ac felly mae llunio’r arolygon ar gyfer tymor y gwanwyn a’r haf wedi bod yn ffordd wych o edrych ymlaen at yr adeg pan fydda i’n gallu mynd allan i’r maes i arolygu rhai o’r safleoedd a amlinellir ar gyfer ein gwaith monitro. Cyffrous hefyd yw meddwl am y newid yn y tymhorau pan fydd toreth o adar wedi dod i’r fei ar ôl y gaeaf a bydd pryfed o’r diwedd wedi codi ar aden unwaith eto. Mae wedi bod yn arbennig o ddifyr rhwydweithio â rhai o’r biolegwyr lleol yng ngogledd Ceredigion a Sir Drefaldwyn sydd wedi darparu gwybodaeth amhrisiadwy am y cofnodi sydd eisoes ar y gweill yn lleol gan godi awydd arnaf i weld rhai o’r rhywogaethau prin rydym yn ddigon ffodus o’u cael yn y rhan yma o Gymru (Gwrid y Gors ar Gors Fochno, er enghraifft, a’r pryf cop liocranid bregus ei statws yng ngolwg yr IUCN (Undeb Rhyngwladol Er Cadwraeth Natur) Agroeca dentigera ar Dwyni Ynys-las.

 

Heblaw am y gwaith monitro, dw i wedi bod yn crwydro cyffiniau Machynlleth (pan fyddai tywydd y gaeaf yn gadael i mi!) gan gwrdd â llu o bobl wirioneddol ddiddorol sy’n byw gerllaw a dysgu am y dirwedd, ei chynefinoedd amrywiol a’i hanes yn ogystal â defnyddio ffotograffiaeth i ddal ambell aeaflun i’w ychwanegu at ein llyfrgell gynyddol o ddelweddau.

Mae adfywio naturiol eisoes yn digwydd yma

Rhai o’r safleoedd a fu’n arbennig o ddiddorol ymweld â nhw yw’r rheini lle mae adfywio naturiol eisoes ymhell ar y blaen, lle mae coed a llwyni yn gwthio eu trwynau uwchlaw gorchudd o frwgaitsh rhedyn ac mae clytiau o rug a llus yn dechrau ymadfer mewn mannau lle mae’r pori’n llai dwys. Un o agweddau cyffrous y prosiect O’r Mynydd i’r Môr yw, mewn rhannau o’r ardal, y byddwn yn anelu at adfer ‘prosesau naturiol’ gan geisio ailsefydlu dynameg ecosystemau a chanolbwyntio’n llai ar reoli dwys i sicrhau canlyniadau penodol. Dal i’w benderfynu’n union yw sut olwg fydd ar hyn yn ymarferol ond yn sicr mae am fod yn broses ddiddorol iawn!

 

Eisiau helpu natur i wella?

Fel rhyw fath o brosiect ar yr ymylon sy’n gysylltiedig ag O’r Mynydd i’r Môr, dw i wedi bod yn edrych i drefnu cyrch mawr i godi sbwriel yn Nyffryn Dyfi yn y gwanwyn fel rhan o fenter “Cyrch Mawr Glanhau’r Glannau” Syrffwyr yn erbyn Carthion. Problem sylweddol yw sbwriel a gwastraff plastig y mae angen mynd i’r afael â hi wrth y tarddiad gan fod y rhan fwyaf o’r sbwriel sy’n cyrraedd yr amgylchedd morol yn y pen draw yn deillio o afonydd a ffynonellau ar y tir. Drwy gynnal helfa sbwriel gydgysylltiedig ar draws dalgylch afon Dyfi, nod y fenter lanhau yn y gwanwyn yw cael cymunedau lleol i ymgysylltu â’r mater yma ac atal llifeiriant y gwastraff cyn iddo gyrraedd y môr. Os hoffech gymryd rhan yn y cyrch – y dyddiad i’w gadarnhau yw 20 Ebrill – cofiwch gysylltu â ni gyda’ch syniadau drwy e-bostio ben.porter@summit2sea.wales.

Wrth i’r gwanwyn ddynesu, dw i’n llawn cyffro o weld bod y swydd ymgysylltu â’r gymuned yn cael ei hysbysebu ac o groesawu aelodau newydd i’n tîm cynyddol. Bydd dechrau sgyrsiau â chymunedau a ffermwyr lleol ar draws tirwedd y fro’n rhan hollbwysig o’r prosiect yma, yn enwedig gyda’r ansicrwydd enfawr y mae materion fel Brexit wedi’i greu.

Ar yr un pryd, gyda’r pwysau cynyddol a wynebir gan ein hamgylchedd, mae yna fwyfwy y gallwn ni fel unigolion ei wneud i helpu’r achos: os oes gardd fechan gynnoch chi beth am blannu ambell gymysgedd o flodau gwyllt brodorol neu adael i ambell batshyn fynd ychydig yn ‘flêr’ – mae’r cynefinoedd hyn yn cynnig bwyd hanfodol i bryfed (sy’n dirywio’n enbyd ar hyn o bryd), yn ogystal â gorchudd i lu o amffibiaid, mamaliaid bach ac infertebratau. Gallwch hefyd gefnogi’r gwaith mawr sydd ar y gweill gan sefydliadau partner lleol fel Coed Cadw, y RSPB, Ymddiriedolaeth Natur a Choetir Anian. Dilynwch rai o’r dolenni isod i weld digwyddiadau’r gwanwyn eleni a sut gallwch chi gymryd rhan:

Postiadau blog diweddar

Pennod newydd i’r brosiect

gan Melanie Newton##llywodraethu #cymuned #gwrando #newidiadau #rewildingbritainMae O’r Mynydd i’r Môr wedi cyhoeddi bod un o’i wyth partner, Rewilding Britain, yn camu i’r neilltu oddi wrth y prosiect.  Mae’r penderfyniad yn dilyn adborth gan aelodau o’r gymuned ac...