O’r Mynydd i’r Môr / Summit to Sea

A yw’n bryd inni weld beth sydd o flaen ein llygaid?

Melanie Newton, cyfarwyddwr y prosiect sy’n rhannu hanes treftadaeth lofaol ei theulu ac yn cynnig ei chefnogaeth i ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n wynebu’r cyfrifoldeb o ymdopi â newid ac achub y blaned.

Am flynyddoedd lawer, roedd cerflun mawr yn dwyn y teitl Y Glöwr Delfrydol yn sefyll fel cawr uwchlaw’r fynedfa i Amgueddfa Lofaol Big Pit ym Mlaenafon yng Nghymoedd De Cymru. Erbyn hyn mae wedi symud dan do yn dilyn gwaith atgyweirio sylweddol, ac mae’n rhan o arddangosfa baddonau pen pwll amgueddfa Big Pit.

Y glöwr a safodd ar gyfer y cerflun yma yn ôl yn yr 1950au oedd Thomas Idris Lewis, gŵr o Gwm Dulais yn Ne Cymru, sef fy Nhad-cu. Yn drist, mae wedi’n gadael ni ers amser maith erbyn hyn – bu farw o glefyd y galon yn 70au cynnar.

Gwreiddiau cerdinen tu mewn i risgl coeden farw (ceirios neu fedwen?) tu mewn i dderwen hynafol

[Llun ohono i’n 16 oed, tua 1985, gyda’r cerflun o dad-cu.  Esgusodwch y trowsus steil 80au amheus]

Roedd fy Mam-gu a Thad-cu’n byw mewn byngalo bach o’r enw Tan-y-coed oedd ag atig, lle byddai Dad-cu’n eistedd am oriau yn ysgrifennu pan nad oedd yn gweithio lawr yn y pwll.

Yn 1966, ysgrifennodd stori o’r enw Looking back over the years.   Yn y Rhagair mae’n dweud:

“By the time my grandchildren reach my age, all that I have written in this book will be history to their children”.

Yn 65 oed yn 1966, ni fyddai wedi rhagweld streic y glowyr yn 1984 a’r effaith ddinistriol y byddai cau’r pyllau’n ei gael ar gymunedau glofaol ar draws y Deyrnas Unedig.  Mi fyddai’r newid yn yr hinsawdd yn sicr yn gysyniad diarth iddo.

Roedd streic y glowyr a chau’r pyllau yn y pen draw yn ergyd fawr i’r cymunedau hynny yr oedd eu bywydau’n gwbl ddibynnol ar y diwydiant glo.  Mae’r ffaith bod cymunedau’r ardal hon wedi goroesi yn dyst o gryfder y bobl. Mae’r rhain yn parhau i fod yn gymunedau hynod o glos, ond nid yw’r economi wedi llwyddo i adfer hyd yn hyn.  Nid hyd y gwyddaf i beth bynnag.

Mae’n ddiddorol ystyried pam fod yr economi’n  cael trafferth dod yn ôl ar ei thraed. Rwy’n credu bod gan ddaearyddiaeth a’r Chwyldro Diwydiannol ran fawr i’w chwarae.

Yn ddiweddar iawn, cwrddais â Chris Blake, sy’n gweithio ar y Skyline project. Ar fore oer, gwlyb a gaeafol yn Nhreorci, llwyddodd Chris a  minnau yn y diwedd i ddod o hyd i rywle i gael paned o de a KitKat mewn caffi yn y dref, er mwyn imi ddysgu mwy am ei waith.

Gyda chefnogaeth ariannol gan y Friends Provident Foundation, mae Chris yn gweithio gyda thair cymuned yng Nghymoedd De Cymru i ail-ddychmygu eu dyfodol, eu cartrefi a’u tirwedd.  Dangosodd Chris lun imi y mae’r ddau ohonom yn teimlo sy’n adrodd hanes y cymunedau hyn erbyn heddiw.

Gwreiddiau cerdinen tu mewn i risgl coeden farw (ceirios neu fedwen?) tu mewn i dderwen hynafol

Mae’r llun cyntaf yn dangos tref brysur, y dref mae’n siŵr y byddai’r rhan fwyaf o bobl sy’n byw yno’n ei gweld a’i disgrifio.

Gwreiddiau cerdinen tu mewn i risgl coeden farw (ceirios neu fedwen?) tu mewn i dderwen hynafol

Mae’r ail lun yn dangos beth arall sydd yno.  Nid yw’r llun yma wedi’i addasu gyda Photoshop  – mae’r coed yno, ac maen nhw mor agos ag y gwelir.

O sefyll ar y stryd fawr, oherwydd y cymoedd dwfn siâp ‘V’ a’r strydoedd cul gyda rhesi o fythynnod teras glofaol, fyddech chi ddim yn sylweddoli bod yna dirwedd arall ychydig fetrau y tu cefn i’r hyn welwch chi.  Dwi wedi sefyll yno a gweld hyn fy hun. Mae’n amhosib ei gweld os ydych chi’n cerdded i lawr y stryd.

Ond o sefyll yno, allwn i ddim peidio â synnu at y diffyg persbectif hwn.  Gyda diwylliant oedd yn canolbwyntio gymaint ar y diwydiant glo – nid yn unig fel diwydiant ond hefyd fel ffordd o fyw – efallai nad oedd fy nghymuned yn gweld beth oedd yn digwydd o flaen ein llygaid?

Roedd fy nhad yn löwr, a doedden ni ddim yn deulu oedd yn treulio llawer o amser yn yr awyr agored, felly ar wahân i gerdded i lawr i’r ‘rec’ i chwarae, doeddwn i ddim yn dod i gysylltiad o gwbl â’r dirwedd o’m hamgylch.

Mae fy ffrind Richard Parfitt, rwy’n ei ddilyn ar Facebook, wedi rhoi bywyd newydd a phersbectif newydd imi ar y Cwm lle cefais fy magu.  Mae wrth ei fodd yn cerdded y mynyddoedd ac mae’n cymryd lluniau hardd dros ben o’r bryniau a’r mynyddoedd sydd o amgylch ein cwm. Rwy’n aml yn edrych ar ei luniau ac yn meddwl  “llun o ble yw hwnna?” Dwi ddim yn ei nabod fel cartref fy mhlentyndod am nad dyna a welais i, na chael fy annog i’w weld.

Mae’n rhoi pleser mawr imi edrych ar y lluniau hyn o’r cwm diwydiannol sy’n dangos sut mae’n edrych go iawn.

Gwreiddiau cerdinen tu mewn i risgl coeden farw (ceirios neu fedwen?) tu mewn i dderwen hynafol
Gwreiddiau cerdinen tu mewn i risgl coeden farw (ceirios neu fedwen?) tu mewn i dderwen hynafol
Gwreiddiau cerdinen tu mewn i risgl coeden farw (ceirios neu fedwen?) tu mewn i dderwen hynafol
Gwreiddiau cerdinen tu mewn i risgl coeden farw (ceirios neu fedwen?) tu mewn i dderwen hynafol
Gwreiddiau cerdinen tu mewn i risgl coeden farw (ceirios neu fedwen?) tu mewn i dderwen hynafol

Dwi ddim am syrthio i’r fagl o ramantu am y gorffennol.  Roedd y ffordd o fyw lofaol yn un galed iawn i bawb oedd yn rhan ohoni.  Ond mae chwerwder streic yr 1980au a’r effaith ddinistriol a gafodd hi ar y cymunedau wedi gwneud hi’n anodd iawn datblygu a newid.  Wedi’r cyfan, mae hi gymaint yn anoddach codi ar eich traed ar ôl cael ergyd mor galed.

Rwy’n credu y byddai wedi bod cymaint yn well petai amser wedi gallu cynnig cyfle i gymunedau glofaol i ddatblygu a newid.  Gall fod yn ddadleuol dweud hyn, ond y realiti yw bod tanwydd ffosil yn ffactor mor fawr yn y newid yn yr hinsawdd, hyd yn oed pe na bai’r pyllau glo wedi cau yn y ffordd wnaethon nhw, dwi ddim yn credu y gallai’r diwydiant glo fod wedi parhau yn yr un ffordd.  Mi fyddai wedi gorfod datblygu, ac felly hefyd y cymunedau.

Ond o leiaf mi fyddent wedi cael cyfle i gael eu gwynt atynt, ystyried y camau nesaf, a dod o hyd i atebion.

Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi treulio llawer o amser yn siarad â phobl am O’r Mynydd i’r Môr.  Mae ffermwyr wedi fy nghroesawu i’w cartrefi, wedi rhoi oriau o’u hamser imi, wedi gwneud paneidiau o de imi a’m bwydo efo chacennau, ac wedi siarad â mi am ddyfodol ffermio fel maen nhw’n ei weld.

I’r rhan fwyaf ohonom, mae Brexit yn golygu bod y dyfodol yn destun pryder, ond mae ffermio’n un o’r diwydiannau sy’n gorfod mynd benben â’r cyfan.  Mae’r newidiadau posib mae ffermwyr yn eu hwynebu’n rhai all newid eu bywydau. Un o’r pethau a’m tarodd i fwyaf yn ystod fy ymweliadau yw pa mor wirioneddol fodlon y mae ffermwyr gyda’u bywydau.  Maent yn caru eu gwaith ac mae eu hanifeiliaid yn bwysig iddyn nhw, felly yn naturiol, dydyn nhw ddim am i bethau newid. Mae nifer ohonyn nhw’n perthyn i linach hir gydag amaethyddiaeth yn unig lwybr i’w tadau a’u cyndeidiau.

Fel nifer o ddiwydiannau, mae ffermio’n wynebu dyfodol lle mae newid yn anorfod.  Rwy’n gobeithio y gall y prosiect gefnogi’r newidiadau hyn, gan roi cyfle i gymunedau ffermio dorri’u cwys eu hunain ar yr un pryd.  Rwyf am weld O’r Mynydd i’r Môr yn chwarae rhan yn eu helpu i ddal eu gafael ar yr agweddau o ffermio sy’n agos at eu calonnau, a dod o hyd i ffyrdd o ail-lunio’u diwydiant er mwyn diogelu nid yn unig y diwydiant ei hun, ond y cymunedau, y diwylliant, ac yn bwysicaf oll, dyfodol y blaned.

Oherwydd, y gwir amdani yw, fel tirfeddianwyr, mi all y dyfodol drudfawr hwnnw fod yn eu dwylo nhw.

Melanie Newton, Cyfarwyddwr y Prosiect

Postiadau blog diweddar

Pennod newydd i’r brosiect

gan Melanie Newton##llywodraethu #cymuned #gwrando #newidiadau #rewildingbritainMae O’r Mynydd i’r Môr wedi cyhoeddi bod un o’i wyth partner, Rewilding Britain, yn camu i’r neilltu oddi wrth y prosiect.  Mae’r penderfyniad yn dilyn adborth gan aelodau o’r gymuned ac...

Bywyd fel intern

Ben Porter yn sôn am rai o’i brofiadau ar ddechrau bywyd fel intern gydag O’r Mynydd i’r Môr