O’r Mynydd i’r Môr / Summit to Sea

Dychmygwch bobl a natur yn ffynnu, o’r mynydd i’r môr

Beth yw O’r Mynydd i’r Môr?

Sut mae dyfodol canolbarth Cymru yn edrych i chi? Dychmygwch rywle cyfoethocach ei fywyd gwyllt a’i ryfeddod, lle mae cymunedau gwledig yn mynd o nerth i nerth wrth i fyd natur ymadfer, lle mae pobl yn teimlo’n fwyfwy cysylltiedig â’r tir, y môr a’u cymunedau.

Cyfle yw O’r Mynydd i’r Môr i ddangos y gall fod dyfodol gwahanol i’r tir a’r môr sy’n gweithio er lles pobl a natur.

Menter yw hi sy’n anelu at adfer ecosystemau ffyniannus ac economi leol gydnerth ar raddfa sydd heb ei gweld erioed o’r blaen yng ngwledydd Prydain.

 

Sut?

Bydd O’r Mynydd i’r Môr yn cynnwys:

  • adfer prosesau naturiol sy’n darparu’r gweithrediadau ecolegol yr ydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw
  • dod a chymunedau ynghyd i greu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y dyfodol
  • cefnogi’r economi lleol er mwyn arall-gyfeirio a sefydlu mentrau newydd sy’n seiliedig ar fyd natur.

Ble mae O’r Mynydd i’r Môr?

Bydd y prosiect yn dwyn at ei gilydd un ardal gyforiog o natur, sy’n ymestyn yn ddi-dor o fynyddoedd Pumlumon – yr ardal uchaf yng nghanolbarth Cymru – i lawr drwy gymoedd coediog at aber afon Dyfi ac allan i Fae Ceredigion. O fewn pum mlynedd bydd yn cynnwys o leiaf 10,000 hectar o dir a 28,400 hectar o’r môr.
Gallwn gyfuno ein hymdrechion ym Mynyddoedd Cambria a Dyffryn Dyfi gan obeithio y byddwn yn gryfach o lawer o weithio ar y cyd. Mwy Hannah Scrase

Cydlynydd Prosiect

Am faint bydd y prosiect yn para?

Prosiect hirdymor yw O’r Mynydd i’r Môr sydd ag amcanion i adfer ecosystemau ffyniannus ac economi leol gydnerth dros yr 20 mlynedd nesaf fan leiaf a llawer o ddegawdau ar ôl hynny.

Bydd Cyfnod 1 O’r Mynydd i’r Môr yn para am bum mlynedd (2018 tan 2023).

O’r Mynydd i’r Môr Blwyddyn 1

Bydd yr hyn sy’n digwydd yn y flwyddyn gyntaf hon yn cael ei lunio a’i benderfynu gan y gymuned leol. Felly mae’n anodd rhoi llawer o fanylion penodol. Dyma brosiect y mae’n rhaid iddo gael ei ddatblygu gan bobl lawr gwlad yn lleol – gyda chefnogaeth y sefydliadau partner.

Y ffocws ar gyfer y 12 mis cyntaf yw creu tîm prosiect a sicrhau bod pawb yn y gymuned leol sydd am gymryd rhan yn gallu gwneud hynny.

Y flaenoriaeth arall yn y flwyddyn gyntaf yw deall beth yw’r modelau busnes hyfyw i ddatblygu incymau cynaliadwy i bobl a busnesau lleol.

Bydd gwaith hefyd yn dechrau i ymgynghori â’r gymuned leol ac adnabod y lleoedd gorau i adfer prosesau naturiol yn ecolegol – o’r mynydd i’r môr. A byddwn hefyd yn cychwyn ar rywfaint o waith adfer ecolegol ar dir a berchenogir gan bartneriaid y prosiect.

O ble mae’r cyllid yn dod?

Mae cais llwyddiannus i’r Rhaglen Tirweddau mewn Perygl yn golygu bod £3.4 miliwn o gyllid wedi’i sicrhau i O’r Mynydd i’r Môr dros bum mlynedd. 
Arian newydd yw hwn, o’r tu allan i Gymru. Bydd yn cefnogi ymdrech sylweddol barhaus i greu cyfleoedd newydd yn ardal y prosiect a seilwaith i sicrhau newid i’r dyfodol. Bydd hefyd yn ein helpu i ddod â buddsoddiad ychwanegol i mewn a datblygu cyfleoedd economaidd eraill i gynnal y gwaith dros y tymor hir.
Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yn fy marn i gyda phrosiect O’r Mynydd i’r Môr yw’r ymdeimlad yma â pherchenogaeth. Rhaid i hynny gael ei weld yr un mor werthfawr â’r amgylchedd yn fy marn i. I mi, mae’r naill yn ategu’r llall. Mwy Huw Denman

Coedwigwr

Pwy sy’n cymryd rhan?

Y bobl sydd wedi byw a gweithio ar y tir a’r môr yng nghanolbarth Cymru sy’n ei adnabod orau.

Bydd pobl leol – gwarchodwyr y tir a’r môr, a’r gymuned ehangach – yn chwarae rhan hanfodol mewn llunio a chyd-gynllunio’r project.

Bydd O’r Mynydd i’r Môr yn dod ag arbenigedd lleol at ei gilydd gyda chefnogaeth a gwybodaeth o bell i greu atebion sy’n gweithio i ganolbarth Cymru.

I wireddu gweledigaeth ar y raddfa hon, mae angen ymdrech cydlynol rhwng tirfeddianwyr, cymunedau, ffermwyr, pysgotwyr, coedwigwyr, cyrff cyhoeddus, cyrff anllywodraethol, busnesau ac arbenigwyr perthnasol.

Mae partneriaeth O’r Mynydd i’r Môr a arweinir yn lleol yn cael ei sefydlu i gyd-reoli’r project gydag endid gyfreithiol sy’n caniatáu rhannu refeniw a buddion eraill.

Dad-ddofi Prydain sy’n arwain ffurfio’r prosiect mewn cydweithrediad â Coed Cadw.

Maent yn gyfrifol am gyflawni amcanion O’r Mynydd i’r Môr ochr yn ochr â phartneriaid eraill y prosiect:

Rydyn ni am greu’r cydbwysedd iawn fel y bydd pobl a’r ardal yn elwa, wyddoch chi, ar unrhyw ddatblygu posibl. Lle hud a lledrith yw e, beth am ei gadw i’r dyfodol?  Mwy Wynne Jones

Swyddog Datblygu , Pentir Pumlumon

Pum egwyddor

Mae pum egwyddor arweiniol hanfodol er sicrhau llwyddiant O’r Mynydd i’r Môr.

 

Mae pobl a chymunedau yn allweddol.

Y bobl sydd wedi byw a gweithio ar y tir a’r môr yng nghanolbarth Cymru sy’n ei adnabod orau. Yr allwedd i greu atebion sy’n gweithio i ganolbarth Cymru yw dod â mentrau lleol ynghyd gyda chefnogaeth ardaloedd ymhellach i ffwrdd.

 

Gallwn ddysgu o brosesau naturiol.

Yn hytrach nag ymdrechu i ateb targedau ar gyfer rhywogaeth neu gynefin penodol, mae O’r Mynydd i’r Môr yn ymdrechu i weld beth sy’n bosib wedi i brosesau naturiol gael eu hadfer.

Rydym yn chwilio am fwy o fyd natur, mwy o amrywiaeth, mwy o gyfleoedd. Rydym yn barod i gael ein synnu gan y canlyniadau.

 

Fe all byd natur gefnogi economïau lleol gwydn.

Bydd y project yn chwilio am gyfleoedd sy’n seiliedig ar fyd natur i sicrhau amrywiaethu’r economi lleol a’i wneud yn fwy gwydn. Bydd y rhain yn darparu mwy o ffyrdd i bobl lunio bywoliaethau yn eu cymunedau eu hunain.

 

Mae angen i fyd natur weithio ar raddfa.

Cors Fochno. Ynys-hir. Glaslyn. Mae sawl lleoliad unigryw a gwerthfawr yn bodoli o fewn ardal y project. Wrth gysylltu’r rhain a mannau eraill, fe all byd natur ddechrau gweithio fel system fwy a gofalu amdano ei hun eto.

 

Sicrheir buddiannau ar gyfer y tymor hir.

Fe all ein gweithrediadau nawr gael effaith am genedlaethau i ddod. Ein dymuniad yw gweld wyrion ein hwyrion yn byw mewn economi iach o fewn tirlun sy’n ffynnu, gan deimlo’n gysylltiedig â’u treftadaeth naturiol a diwylliannol yng nghanolbarth Cymru. I sicrhau’r buddiannau yma i bawb mae angen i ni gydweithio.

Eisiau cymryd rhan? Cwestiynau?

I gael gwybod mwy, ymunwch â’r sgwrs a rhannu’ch arbenigedd. Peidiwch â phetruso rhag cysylltu â: gwybodaeth@ormynyddirmor.cymru 

Ymuno â’r rhestr bostio

Os ydych am gael eich cadw ar y blaen o ran newyddion, digwyddiadau a chyfleoedd yn y dyfodol sy’n gysylltiedig ag O’r Mynydd i’r Môr, tanysgrifiwch i’n rhestr bostio.

Sut gallwch chi gymryd rhan?

Dyma ychydig syniadau am ffyrdd y byddwch efallai am gymryd rhan. (Neu anfonwch e-bost aton ni a dweud beth rydych chi am gymryd rhan ynddo.)

  • Cynnig eich arbenigedd a gwybodaeth leol i helpu i lywio O’r Mynydd i’r Môr o’r cychwyn cyntaf drwy gymryd rhan wrth ddatblygu a rhedeg y prosiect.
  • Gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Byd Natur ac eraill i ddatblygu system o daliadau am wasanaethau ecosystem ar eich tir.
  • Bod yn rhan o gynllun clystyrau ffermydd newydd sy’n cefnogi grwpiau o ffermwyr i wneud ceisiadau am gyllid i ymgymryd â gwaith ar eu tir a fydd yn gwella ei werth i fywyd gwyllt.
  • Ymuno â ni i ddatblygu cais ar y cyd gan ffermwyr a grwpiau cadwraeth i Lywodraeth Cymru am ddarparu gwasanaethau ecosystemau’n lleol sy’n eu helpu i gyflawni eu polisïau, gan gynnig dulliau peilot ar gyfer cymorth amaethyddol ar ôl Brexit sydd dan arweiniad lleol.
  • Cymryd rhan ym mhrosiect ymgysylltu’r fenter, Dull Llais y Gymuned, i edrych ar safbwyntiau cymunedau ar reoli’r Ardal Cadwraeth Arbennig Forol yn y dyfodol.

E-bost: gwybodaeth@ormynyddirmor.cymru 

O’r Mynydd i’r Môr Hanesion

Alison Palmer Hargrave

Swyddog,  Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Pen Llŷn a’r Sarnau

Bydd y prosiect yn cael ei lywio gan randdeiliaid a chymunedau lleol yn y lle cyntaf, ac rwy’n credu y bydd hynny’n gyffrous i weld sut mae hynny’n datblygu. Am flynyddoedd mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar y môr yn bennaf yn yr ardal hon, a bydd prosiect yma yn cyfle da iawn i ddechrau edrych ar y tir a’r môr ar y cyd.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn byw ac yn gweithio ar y tir, ond mae’n bwysig adnabod bod gweithgareddau tirol hefyd yn gallu effeithio ar yr amgylchedd morol, a chychwyn edrych ar y darlun llawn.

Bydd gan y prosiect hwn ffocws cryf ar fywoliaeth leol a’r economi, credaf fod hyn yn hanfodol er mwyn cael cydbwysedd i sicrhau bod gennych cydnerthedd ac amddiffyniad i’r ecosystem a’r economi.

I mi, mae hyn yn allweddol i sicrhau llwyddiant yn yr hirdymor: hynny yw edrych ar yr holl elfennau – diwylliant, bywoliaeth a threftadaeth Gymraeg – rydych chi’n edrych ar y cyfan.

Mae’n ymwneud â dod â phobl at ei gilydd, a chredaf y bydd yn wirioneddol ddiddorol a chyffrous i weld sut mae hynny’n datblygu.

Adam Thorogood

Coediwr, Coed Cadw

Beth sy’n gyffrous i mi am O’r Mynydd i’r Môr yw’r ffordd y mae’n uno’r holl gynefinoedd a lleoedd gwahanol yma. Yr afonydd a’r creigiau a’r coetiroedd a’r arfordir – y cwbl gyda’i gilydd.

Ond ochr yn ochr â’r cyffro, mae hefyd sawl ansicrwydd a her, fel colledion bioamrywiaeth ar draws y dirwedd a darnio cynefinoedd pwysig ynghyd â sefyllfa sy’n gynyddol anodd yn economaidd ac o ran polisi sy’n rhoi pwysau ar hyfywdra ennill bywoliaeth o’r tir. Datblygiad gobeithiol yw O’r Mynydd i’r Môr a chyfle i ddwyn lleisiau at ei gilydd. Mae annog trafodaeth am ddefnydd tir ymhlith grŵp mwy amrywiol o bobl yn dda oherwydd mae llawer o bobl yn rhanddeiliaid yng ngoroesiad y cynefinoedd hyn a diwylliant a threftadaeth leol.

Mae’n bwysig bod y lle yma’n cael ei gydnabod fel rhywle o bwys ecolegol a diwylliannol.

Y gwaith dw i’n ei wneud yw helpu i adfer coetir hynafol – gan roi cyngor a chymorth i dirfeddianwyr. Mae adfer coetir yn dod â buddion economaidd ac ecolegol fel ei gilydd.

Er enghraifft, dw i’n gweithio gyda pherchnogion coetiroedd a chontractwyr bach sy’n byw yn lleol i ddod â’r hen goetiroedd yma sydd wedi’u hesgeuluso yn ôl o dan reolaeth. Cafodd llawer o goetiroedd hynafol eu plannu â chonwydd yn ystod yr 20fed ganrif. Rhaid rheoli’r safleoedd hyn yn ofalus er mwyn diogelu a chryfhau eu bioamrywiaeth. Hefyd, mae’r priddoedd mewn coetir hynafol yn hollbwysig. Nid yw’r coetiroedd hyn erioed wedi’u haredig na’u hamharu arnynt ac felly mae’r pridd yn cadw cronfa hadau o’r coetir cyn y planhigfeydd ynghyd â mwy o amrywiaeth o ran ffyngau.

Drwy reoli’r safleoedd hyn yn ofalus, gallwn ni ddiogelu treftadaeth eneteg ecosystemau ein coetiroedd lleol a chreu gwaith i gontractwyr lleol yr un pryd.

Huw Denman

Coedwigwr

Rwy’ wedi bod yn helpu O’r Mynydd i’r Môr wrth ymgysylltu â phobl yn y cymunedau lleol, gan gnocio wrth ddrysau tirffeddianwyr a ffermwyr yn enwedig, jest i roi ychydig o rybudd iddyn nhw ymlaen llaw am fodolaeth y prosiect. Rwy’ wedi yfed tipyn o de a bwyta llwyth o bice ar y maen ac wedi cael croeso mawr.

Mae ffermwyr a thirfeddianwyr yn poeni’n fawr am gadw eu presenoldeb yn yr ardal – gyda’i gilydd, fel cymunedau a theuluoedd. Mae’n nhw’n gweld yr oes sydd ohoni yn oes sy’n newid gyda’r holl fygythiadau a chyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit a hefyd ddiwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yn fy marn i gyda phrosiect O’r Mynydd i’r Môr yw’r ymdeimlad yma â pherchenogaeth.

O’m safbwynt i, dyw e ddim yn ymwneud â’r amgylchedd yn unig, neu ecoleg, na bywyd gwyllt – yr un mor bwysig yw ecoleg ddynol, a chymuned, a diwylliant.

Mae hyn’na wir yn taro deuddeg i mi yng Nghymru achos Cymro Cymraeg ydw i ac mae fy mherthnasau i gyd yn siarad Cymraeg ac rwy’n dod o gymuned Gymraeg ei hiaith.

Rhaid i hynny gael ei weld yr un mor werthfawr â’r amgylchedd yn fy marn i. I mi, mae’r naill yn ategu’r llall.

Wynne Jones

Swyddog Datblygu, Pentir Pumlumon

Ein gobaith yw y gallai O’r Mynydd i’r Môr ein helpu i gyllido canolfan ymwelwyr ym Maesnant ar lethrau Pumlumon. Mae’r lleoliad yn unigryw ac yn anhygoel ac felly gallai gynnig pob math o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau ac i bobl gael profiad o ddod i ardal wyllt. I’m tyb i, dyma un o’r ychydig ardaloedd gwyllt sydd ar ôl yng Nghymru.

Ym Maesnant gallai fod cyfleoedd ar gyfer gwaith – arweinyddiaeth fynydd, cerdded, a theithiau cerdded tywysedig. Camp boblogaidd yw beicio mynydd. Mae marchogion wedi dangos diddordeb mewn defnyddio’r lle i noswylio ar eu teithiau.

Peth arall yw digwyddiadau – rasys triathlon neu farathon, pob math o bethau fel ’na. Mae yna gyfle i bobl fwynhau gweithgareddau ar y dŵr hefyd.

Dyma gyfle i greu dynodiad mewn gwirionedd – mae yna botensial enfawr i greu llawer iawn mwy o ymwybyddiaeth o’r byd a sut dylen ni ofalu amdano.

Rydyn ni am greu’r cydbwysedd iawn fel y bydd pobl a’r ardal yn elwa, wyddoch chi, ar unrhyw ddatblygu posibl.

Lle hud a lledrith yw e, beth am ei gadw i’r dyfodol?

Hannah Scrase

Cydlynydd Prosiect

Fy ngobaith yw y gall O’r Mynydd i’r Môr ddod â phobl sydd â buddiannau gwahanol ynghyd i gael hyd i dir cyffredin ynglŷn â’n dyfodol.

Ym mhen amser dylai alluogi pobl yn lleol i ddatblygu cyfleoedd newydd o ran busnes neu waith ac i aros yn yr ardal. Gallwn i gyd fod yn falch o fyw mewn amheuthun o le lle mae natur yn ymadfer yn hytrach na dirywio.

Dw i wedi bod yn gwrando ar lawer o bobl yn lleol dros y 18 mis diwethaf gan siarad â nhw’n bennaf am y tir, ffermio a natur. Dw i wedi ymweld â sawl llecyn arbennig yng nghanolbarth Cymru lle mae natur naill ai’n dal ei thir neu hyd yn oed yn dychwelyd, am y tro cyntaf mewn ambell fan.

Dw i hefyd wedi helpu i ddwyn ynghyd grŵp o un ar ddeg o sefydliadau sy’n gweithio ym meysydd coedwigaeth, cadwraeth a datblygu gwledig. Rydyn ni wedi bod yn edrych ar sut gallwn gyfuno ein hymdrechion ym Mynyddoedd Cambria a Dyffryn Dyfi gan obeithio y byddwn yn gryfach o lawer o weithio ar y cyd.

Mae’r rhan fwyaf o’m gyrfa wedi ymwneud â lleihau neu gyfyngu ar ddifrod i’r amgylchedd gan geisio gwarchod beth sydd ar ôl, brwydr sydd i’w gweld yn cael ei cholli’n aml. Mae’n wych bod ynghlwm â chreu rhywbeth sydd mor gadarnhaol yn lle hynny. A gwell byth cael gwneud hyn mor agos i’m cartref.

David Anning

Ynys-hir, RSPB

 

 

Gallai O’r Mynydd i’r Môr fod yn bwynt gwerthu unigryw i Fro Ddyfi. Felly, gobeithio y gwelwn ni fwy o dwristiaeth yn dod i mewn ac yn cyfrannu mwy at yr economi wledig.

Mae hi mor bwysig sicrhau mai pobl leol sy’n elwa fwyaf yn sgil hyn.
Mae pethau sy’n dod â mwy o arian i’r ardal yn hollbwysig. Mae problem o hyd gyda phobl ifainc yn symud o’r ardal oherwydd diffyg cyfleoedd.

Byddai’n dda cael pobl ifainc i weld Dyffryn Dyfi fel lle cyffrous lle gallan nhw ennill bywoliaeth – a honno’n fywoliaeth dda. Fel ’na, bydd pethau fel y diwylliant lleol a’r iaith Gymraeg hefyd yn cael eu diogelu.

Mick Green

Cadwraeth Morfilod a Dolffiniaid

Dw i wedi treulio llawer o ddyddiau gogoneddus (yn ogystal â rhai gwlyb ac oer) allan yn y bae ar waith arolygu. Dw i wedi bod allan gyda gwyddonwyr wynebgaled sy͛n dal i ebychu ͚ŵŵ͛ ac ͚ââ͛ pan fydd dolffiniaid yn dod i͛r wyneb yn agos i ni.

Holl faint ac uchelgais prosiect O͛r Mynydd i͛r Môr sy͛n fy nghyffroi. Mae cysylltiad hanesyddol hir â͛r môr o gwmpas Bae Ceredigion, o hen chwedlau drwodd i adeiladu llongau͛n lleol i dwristiaeth natur ein hoes ni. Os gallwn ni gysylltu prosiectau ar y tir a dangos sut maent yn dylanwadu ar y môr drwy well ansawdd dŵr ac amgylchedd morol llawn bywyd gwyllt sy͛n ffynnu, er enghraifft, gallwn ni roi͛r gorau i weld y môr fel rhywbeth ͚ar wahân͛ a͛i ymgorffori mewn dyfodol sy͛n gynaliadwy i fywyd gwyllt a phobl.

Er, yn hanesyddol, y bu diwydiant pysgota mwy o faint yn yr ardal yma, mae bellach yn llai o lawer gyda chychod bach teuluol yn bennaf. Drwy gynnwys pysgotwyr yn uniongyrchol wrth gydreoli͛r ardal gallwn i gyd gydweithio i wella ansawdd amgylcheddol rhan o leiaf o Fae Ceredigion gan wella cyfleoedd i bysgota cynaliadwy a chynyddu͛r cyfleoedd i fywyd gwyllt a thwristiaeth. Gallai hyn yn ei dro helpu i ddatblygu marchnad leol. Mae gormod o bolisïau pysgota wedi͛u gorfodi o bell heb fawr o ddealltwriaeth o͛r amodau amgylcheddol ac economaidd lleol. Byddai môr a reolir yn lleol yn well i bawb.

Pam nawr?

Mae byd natur yn prinhau.

Fel mae adroddiad diweddaraf Sefyllfa Byd Natur i gael ei gyhoeddi yn ei uchel-oleuo, mae 56% o rywogaethau’r DU yn prinhau.

Yng Nghymru, mae un o bob 14 rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu’n llwyr.

Er bod gorchudd coedwigoedd ar gyfartaledd yng ngweddill Ewrop yn 37%, dim ond 14% sydd gan Gymru.

Mae’n debyg na fyddwn yn agos at ateb y targed byd-eang o 2020 i leihau colledion bioamrywiaeth.

 

Mae angen atebion newydd ar yr economi lleol.

Mae llawer o ardaloedd yng nghanolbarth Cymru yn wynebu heriau economaidd difrifol.

Mae incwm yn isel, mae dibyniaeth uchel ar gymorthdaliadau amaethyddol ac nid oes digon o gyflogaeth i gadw pobl ifanc yn yr ardal.

Mae cymunedau ffermio yn yr ucheldir yn wynebu dyfodol arbennig o ansicr.

 

Mae angen adfer ac adnewyddu ein moroedd.

Mae pysgota lleol heb fawr o effaith wedi llunio treftadaeth Bae Ceredigion a’i gymunedau mewn ffyrdd angerddol.

Yn y cyfnodau diweddar, mae llygredd ac effeithiau pysgota masnachol ar raddfa fawr a diwydiannau eraill wedi niweidio ein hamgylchedd morol.

Mae angen i ni newid y ffordd yr ydym yn defnyddio ein môr i ddarparu gwell cyfleoedd i bobl leol a galluogi adferiad ein bywyd gwyllt morol.

 

Gyda Brexit daw risgiau a chyfleoedd.

Pan fydd gwledydd Prydain yn gadael yr UE, bydd gan berchnogion a gwarchodwyr tiroedd a môr Cymru ddewis.

Arhoswch i weld beth sy’n digwydd, a risgio gostyngiad pellach mewn incwm a chyflogaeth pe bai cymorthdaliadau’n diflannu cyn i ddewisiadau eraill gael eu creu.

Neu chwiliwch am bartneriaethau mewn dulliau economaidd ac amgylcheddol mwy cynaliadwy.

 

Mae O’r Mynydd i’r Môr yn cynnig gobaith.

Mae gennym gyfle nawr i wrthdroi’r colledion a darganfod dulliau newydd o fyw gyda gweddill byd natur a gyda’n gilydd.

Rydym yn wynebu cyfle i ailddarganfod ein treftadaeth naturiol a chreu bywoliaethau parhaol sy’n seiliedig ar fyd natur o fewn economïau lleol.

Mae’n bryd i ni adfer y mannau a’r cymunedau sy’n ein cynnal, o’r mynydd i’r môr.

Cysylltu â ni

Ymholiadau cyffredinol

Os hoffech chi gysylltu â thîm y prosiect cysylltwch â ni yn:

gwybodaeth@ormynyddirmor.cymru 

 

Ymholiadau gan y cyfryngau

Os ydych chi’n newyddiadurwr sydd ag ymholiad neu gais am gyfweliad, cysylltwch â’n tîm Cyfathrebu:

cyfathrebu@ormynyddirmor.cymru 

Rydym yn dîm bach ond byddwn yn ymateb i’ch e-bost cyn gynted ag y bo modd.